SL(5)456 - Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud gwelliannau mewn perthynas â Chymru i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd môr. Mae’r gwelliannau’n diweddaru ac yn disodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol gan gyfeirio at Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd.
Caiff cyfeiriadau yn y Gorchmynion canlynol eu diweddaru i sicrhau eu bod yn weithredol ac yn orfodadwy:
1. Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003
2. Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010; a
3. Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd
Mae’r Gorchmynion a restrir uchod, sy’n cael eu diwygio gan yr offeryn hwn, yn gweithredu amryw o rwymedigaethau’r UE o ran cadwraeth adnoddau pysgodfeydd. Bydd y Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
14 Hydref 2019